Dysgais yr alaw hon gan ddau o hoelion wyth y byd sesiyna yng Nghymru, Meg a Neil Browning. Prynon nhw gasét yn yr Alban yn 1983 oedd yn cynnwys yr alaw, ac fe ddechreuon nhw ei chwarae hi mewn sesiynau yng Nghymru. Ers hynny mae wedi ennill ei phlwy fel alaw ‘Gymreig’. Mae’r fersiwn hon yn deyrnged i Meg a Neil, sy’n gerddorion mor frwdfrydig a hael ac sydd wastad yn barod i rannu eu cyfoeth o wybodaeth.
A tune that I learnt from the playing of Meg and Neil Browning, two mainstays of the north Wales trad session scene. They had learnt it from a cassette that they bought in Scotland in 1983, and after having played it in countless Welsh sessions since, it’s been well and truly adopted. This is my little tribute to Meg and Neil, who are so dedicated to sharing and nourishing our musical traditions, and always a joy to play with in the corner of Tafarn y Glôb in Bangor.